18 Mai 2023
Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2023-24: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Annwyl Peredur
Diolch am eich llythyr dyddiedig 8 Mawrth 2023, ac am y cyfle i roi sylwadau ar ddogfennau’r gyllideb a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i lywio’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2023-24. Trafodwyd eich llythyr yn ein cyfarfod ar 23 Mai a hoffem gynnig y sylwadau a ganlyn:
Anfon dogfennau mewn digon o bryd
Fel y gwyddoch, prin iawn yw’r amser sydd ar gael i bwyllgorau graffu ar y Gyllideb Ddrafft. Rydym yn teimlo bod yr amserlenni tyn yn ei gwneud yn anodd cynnal asesiad ystyrlon o effaith y Gyllideb Ddrafft ar y meysydd polisi o fewn eich cylch gwaith, a pharatoi ar gyfer y sesiynau tystiolaeth lafar gyda’r Gweinidogion.
Ansawdd y dogfennau a pha mor ddefnyddiol ydynt
Er mwyn medru craffu’n effeithiol, mae'n hanfodol ein bod yn gallu deall, dadansoddi a dibynnu ar y wybodaeth a gyflwynir inni. Rydym yn credu bod lle i’r dogfennau’n ymwneud â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru a thystiolaeth ysgrifenedig y Gweinidog fod yn fwy eglur a thryloyw.
1. Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy tryloyw yn y ffordd y mae'n cyflwyno gwybodaeth yn y Gyllideb Ddrafft drwy gynnwys rhagolygon a dadansoddiad gwell o effaith refeniw treth incwm Cymru a chwyddiant. Er enghraifft, nid oedd yn glir yn nogfennau’r Gyllideb Ddrafft bod rhai cyllidebau wedi gostwng mewn termau real oherwydd effaith chwyddiant.
2. Rydym hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod dogfennau’r Gyllideb Ddrafft a’r dystiolaeth ysgrifenedig berthnasol yn eglur ac yn gyson wrth gyfeirio at ddyraniadau’r gyllideb. Rydym weithiau’n gweld anghysondeb yn y ffigurau a ddefnyddir mewn papurau gwahanol yn ymwneud â’r Gyllideb Ddrafft.
3. O ran y papurau penodol hynny yn y Gyllideb Ddrafft sy’n ymwneud â maes polisi’r Gymraeg, er ein bod yn cydnabod bod y dystiolaeth gan y Gweinidog yn gynhwysfawr fel arfer, nodwn fod nifer o feysydd gwariant bach a diffyg eglurder ynghylch o ba linell wariant yn y gyllideb roedd y cyllid wedi dod. Byddai’n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru ddarparu tabl gwariant hawdd ei ddilyn yn rhestru’r gwahanol gynlluniau a phrosiectau yn ôl y llinell wariant berthnasol yn y gyllideb, ochr yn ochr â’r alldro terfynol blaenorol ac unrhyw wariant dangosol.
4. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gliriach yn naratif ei chyllideb a’i dogfennau o ran sut mae gwariant ar draws portffolios eraill y Llywodraeth yn cyfrannu at feysydd polisi sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor. Dylai hyn fod yn glir o ran ei negeseuon, ac o ran yr arian, y canlyniadau a’r mesurau y mae’n cyfeirio atynt. Yn yr un modd, gofynnwn i Lywodraeth Cymru fod yn fwy tryloyw pan fo angen ail-flaenoriaethu cyllid drwy ddangos sut mae cyllid yn cael ei ailddyrannu i faes arall, y sail resymegol dros wneud hynny, a chanlyniadau’r penderfyniad hwnnw o safbwynt y gwasanaethau y mae’n effeithio arnynt.
Gobeithio y bydd y sylwadau hyn ar ein profiad o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn fuddiol o ran sbarduno newidiadau er gwell yn y dyfodol.
Yn gywir
Delyth
Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor:
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.